Oes gennych chi gwestiwn ar gyfer hanesydd? Cliciwch yma i anfon eich cwestiwn.

Uchafbwyntiau Hanes Cymru

Mae'r wefan hon yn cynnwys eitemau newyddion a allai fod wedi'u hysgrifennu ar adegau penodol yn Hanes Cymru. Mae eu harddull yn ysgafn ond gwnaed pob ymdrech I sicrhau bod y prif ffeithiau yn gywir.

Chwiliwch am storiau fesul cyfnod:   

-Marwolaeth Sant o Wynedd
Bu farw Beuno Sant yng Nghlynnog Fawr ger Caernarfon … MWY

-Mab i Frenin
Mae brenin Esyllwg yn Ne Cymru, Morgan Mwynfawr … MWY

-Cwrs Cymraeg Newydd i Ddysgwyr
Cyhoeddwyd cwrs newydd yn ddiweddar i Saeson sydd am ddarllen Cymraeg a dysgu ei hynganu … MWY

-Stori’r Geni - yn Gymraeg am y tro cyntaf
Mae’r Beibl i gyd, yr Hen Destament a'r Testament Newydd … MWY

-Colli S.R.
Yr wythnos hon, bu farw un o weinidogion enwocaf Cymru - Samuel Roberts … MWY

-Gwerthu’r Banc
Daeth y newyddion yr wythnos hon fod Banc Lloyds wedi prynu Banc yr Eidion Du yn Llanymddyfri. MWY

 

Bywyd Newydd i Dywysog (55 O.C.)


Porthceri - safle'r
harbwr newydd

Byddai’r stori hon wedi bod yn y papurau tua 55 OC.

Ar y pryd, roedd ardal o’r enw Esyllwg yn Ne Cymru lle mae Morgannwg a Gwent erbyn hyn.

Mae Caradog, nai Caid, brenin Esyllwg, yn fyw ac yn iach yn Rhufain.

Cyhoeddwyd y newyddion gan genhadwr Cristnogol o'r enw Bendigeidfran.

Roedd ewythr Caradog, wrth siarad o'i gaer ar lannau môr Hafren, wrth ei fodd â'r newyddion. 'Roedden ni'n meddwl y byddai wedi cael ei ladd gan yr Ymerawdwr Claudius,' meddai, 'ond mae'n fyw ac yn ddinesydd rhydd.'

Does neb yn siwr pam roedd Claudius mor garedig wrtho. Roedd Caradog, wedi'r cwbl, wedi treulio blynyddoedd yn ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid yng Ngorllewin Prydain. 'Mae'n bosib bod Claudius wedi cymryd at Caradog oherwydd ei ddewrder a'i gryfder,' meddai un o'i gyfeillion ddoe. 'Pe na bai Cartimandua, Brenhines y Briganti, wedi'i fradychu fyddai Caradog erioed wedi cael ei ddal.'

Mae'n debyg y bydd Caradog, sydd hefyd wedi dod yn Gristion, yn aros yn Rhufain.

'Mae e wedi addo i Claudius,' meddai Bendigeidfran, 'na fydd byth yn gadael ei ochr.'

Mae hyn yn ergyd i ardal Esyllwg gan mai Caradog oedd y ffefryn i ddod yn frenin ar ôl Caid. Mae Ceri, mab Caid, wedi newid ei gynlluniau i deithio'r moroedd a bydd e nawr yn aros yn Esyllwg.

Bydd diddordeb Ceri yn y môr, fodd bynnag, yn parhau ac mae eisoes wedi codi porth newydd ger gartref ei dad yn Esyllwg. Mae'r porth, a enwir yn 'Porthceri', yn edrych allan dros Ynys Rhonech, Ynys Echni ac Ynys y Barri. Bydd y dwr dwfn yn y porth yn ei gwneud hi'n bosib i Ceri arbrofi â mathau newydd o longau a hwyliau.

I Fyny

 

Priodas y Flwyddyn (380 O.C.)


Mae Magnus Maximus, Ymerawdwr Ynysoedd Prydain, wedi priodi merch o Orllewin Prydain!

Mae Elen Luyddog, merch Eudaf, Brenin Caernarfon, eisoes wedi cael dylanwad mawr ar ei gwr o Sbaen.

Mae hi wedi’i berswadio i godi system ffyrdd newydd yng Nghaernarfon, Meirionydd, Powys a Cheredigion fel bod modd allforio haearn a metalau eraill o'r mynyddoedd. Yr enw ar y ffyrdd hyn fydd Sarn [H]elen a byddan nhw'n hwb mawr i economi Gorllewin Prydain.

Dydy'r cwpl ddim wedi cyhoeddi eto ble byddan nhw'n byw. Mae Maximus, neu Macsen Wledig fel y mae'n cael ei nabod yn lleol, yn anhapus iawn â'r ffordd mae Rhufain yn cael ei rheoli gan yr Ymerawdwr Gratin ac mae pobl sy'n agos ato yn dweud ei fod am symud yn ôl i Rufain i gymryd drosodd.

Os bydd hynny'n digwydd, mae'n debyg y bydd ei wraig yn mynd gyda fe. Mae e, hefyd, yn debygol o ofyn am gymorth milwrol o Orllewin Prydain. Mae dau frawd Elen, Cynan Meiriadog a Gadeon, eisoes wedi cyhoeddi eu bwriad i fynd i ymladd gyda Maximus ac i dynnu milwyr o Gaernarfon.

Mae Maximus wedi addo tir o gwmpas Nantes yn Llydaw i'r ddau frawd os bydd yn llwyddo i drechu Gratin.

Does dim cynlluniau rhyfel pendant wedi'u cyhoeddi ond mae Maximus yn gadfridog deallus a chryf ac mae Cynan a Gadeon yn enwog am eu ffyrdd anarferol o ennill brwydrau. Yn ôl rhai, nid trechu Rhufain fydd yn anodd ond cadw'r ddinas wedyn. Mae Gratin ei hun yn ymerawdwr gwan ond nid Maximus ydy'r unig un sydd am gymryd drosodd.

I Fyny

 

Colli Dwynwen (460 O.C.)

Dwynwen

Y bore ’ma bu farw Dwynwen, merch Brychan Brycheiniog yn ei chartref ar Ynys Môn. Bydd pobl yn cofio amdani fel Santes Cariadon Cymru ac yn dathlu pen-blwydd ei marw bob blwyddyn ar 25 Ionawr.

Cafodd Dwynwen ei geni i deulu mawr - 24 o ferched - ac fel ei chwiorydd i gyd, roedd disgwyl iddi hi briodi. Syrthiodd hi mewn cariad â Maelon Dafodrill, tywysog lleol. Yn fuan, yn anffodus, daeth y berthynas i ben. Mae rhai yn dweud bod Brychan ei thad wedi addo Dwynwen i ddyn arall ar ôl cael gormod o alcohol un noson. Mae rhai eraill yn dweud bod Dwynwen eisoes wedi penderfynu gwasanaethu Duw.

Dechreuodd Maelon droi'n chwerw. Aeth pethau'n gas rhwng Dwynwen a Maelon ac un noson bu'n rhaid i Dwynwen ddianc i'r goedwig. Ar ôl gweddio, syrthiodd i gysgu. Cafodd freuddwyd fawr. Yn y freuddwyd rhoddodd Duw ddiod arbennig iddi ac anghofiodd Dwynwen am ei theimladau at Maelon. Yn y freuddwyd hefyd, rhoddodd Duw ddiod i Maelon a throdd hwnnw yn dalp o rew!

Ar ôl deffro, gofynnodd Dwynwen am dri dymuniad - yn gyntaf na fyddai Maelon yn aros yn dalp o rew, yn ail na fyddai hi'n teimlo bod eisiau priodi byth, ac yn drydydd y byddai cariadon yn cael gofyn am gymorth Duw trwyddi hi.

Aeth Dwynwen wedyn a sefydlu cwfaint ar Ynys Llanddwyn lle treuliodd ei bywyd yn helpu cariadon ac anifeiliaid.

I Fyny

 

Marwolaeth Sant o Wynedd (510 O.C.)


Bu farw Beuno Sant yng Nghlynnog Fawr ger Caernarfon.

Bydd yn cael ei gofio am ei allu i berfformio gwyrthiau ac i wella cleifion.

Cafodd Beuno ei eni ym Mhowys ond roedd yn perthyn i deulu brenhinol Morgannwg. Pan ddechreuodd y Sacsoniaid symud ymhellach i’r gorllewin, symudodd e a'i ddilynwyr i Wynedd a chawson nhw groeso mawr gan y brenin Cadfan.

Yn fuan death pobl i glywed am bwerau Beuno. Byddai plant a'r anabl yn ymgasglu o gwmpas ei ffynnon ger Clynnog Fawr i gael eu gwella.

Ei hoff aderyn, yn sicr, oedd y gylfinir. Mae rheswm arbennig dros y cyfeillgarwch,' meddai un o'i ddilynwyr. 'Pan oedd Beuno yn croesi'r Fenai o Ynys Môn i Gaernarfon un noson syrthiodd ei lyfr pregethau i'r môr. Roedd Beuno yn meddwl bod y llyfr ar goll am byth ond daeth gylfinir i achub y llyfr a'i gario yr holl ffordd yn ôl i Glynnog Fawr. Gofynnodd Beuno i Dduw fendithio'r aderyn a dyna pam y mae'n anodd iawn i bobl ddwyn wyau'r aderyn nawr.'

Bydd Beuno yn cael ei gladdu yng Nghlynnog Fawr ond bydd gwyl i ddathlu bywyd y sant bob blwyddyn ar y 21ain o Ebrill.

I Fyny

 

Marw Archesgob (589 O.C.)


Ddoe, ar y cyntaf o Fawrth, bu farw’r Archesgob Dewi yn dawel yn ei gartref yn Nhyddewi, Dyfed.

Roedd miloedd o negeseuon wedi'u hanfon i'r Eglwys gan bobl a gafodd dröedigaeth ar ôl clywed Dewi yn siarad.

Mae hanes yr Archesgob yn un diddorol. Roedd ei fam yn lleian o'r enw Non. Penderfynodd na fyddai byth yn priodi ond cafodd ei threisio gan frenin Ceredigion, Sant mab Ceredig. Wedi geni'r plentyn aeth Non, oedd yn nith i'r brenin Arthur, i fyw bywyd pur a syml ar ei phen ei hun. Gwrthododd fwyta unrhyw beth ond dwr a bara.

Anfonwyd Dewi, ei mab, yn gyntaf i Aberaeron ac wedyn i Landdeusant i gael ei ddysgu gan athro enwog, Paulinius. Yn fuan, dechreuodd ar ei waith cenhadu - gan deithio trwy Dde Cymru a gorllewin Lloegr a sefydlu canolfannau allweddol fel Ynys Wydrin (Glastonbury) a Croyland. Yn nes ymlaen, dychwelodd i Dyddewi ac er gwaetha anghydfod ffyrnig a gweadlyd â'r tywysog Boia o Iwerddon, llwyddodd I sefydlu ganolfan newydd a ddaeth yn bencadlys yr Eglwys yng Nghymru.

Roedd Dewi wedi cael ei wneud yn Archesgob yn ystod ei bererindod i Jerwsalem gyda'i gydgenhadon Teilo a Padarn.

Bydd Dewi yn cael ei gofio yn arbennig am ei wyrth yn Llanddewibrefi pan gododd y tir dan ei draed mewn cyfarfod cyhoeddus i bawb gael ei glywed. Does dim sicrwydd eto pwy fydd yn ei ddilyn fel archesgob ond mae rhai o arweinyddion yr eglwys yn awyddus i symud pencadlys yr eglwys yng Nghymru o Dyddewi i dref arall.

I Fyny

 

Marwolaeth Drist y Mab Olaf (850 O.C.)


Safle Marw Gwen

Mae dyn o Bowys wedi colli yr olaf o’i bedwar mab ar hugain mewn brwydr yn erbyn dynion Mercia ger Croesoswallt.

Dywedodd Llywarch Hen mai Gwen oedd y dewraf o'i holl feibion. 'Fy mai i oedd y cyfan,' meddai Llywarch. 'Roeddwn i wedi bod yn dweud wrth Gwen pa mor ddewr oeddwn i pan oeddwn i'n ifanc - gan awgrymu nad oedd e'n fawr o ddyn. Ond roedd e'n ddewrach o lawer na fi.'

Roedd Gwen wedi gadael ei gartref yn ddyn ifanc i fynd yn feudwy. 'Doedd e ddim yn credu mewn rhyfel,' meddai ei dad. 'Ond pan glywodd i'w dri brawd ar hugain gael eu lladd ger afon Lawen, penderfynodd y byddai'n rhaid iddo wneud rhywbeth ei hunan.'

Pan aeth e adref, doedd ei dad ddim yn ei nabod. Aeth Gwen yn ddig ac aeth e i lawr at yr afon ar ei ben ei hun. Ei fwriad, yn ôl pob sôn, oedd aros ar lan yr afon tan y bore ond daeth dynion Mercia yn ôl yn sydyn. Roedd ei ewythr, Urien, wedi rhoi corn iddo alw am gymorth pe bai problemau'n codi. Ni ddefnyddiodd e'r corn. Roedd Gwen am ddangos i'w dad y gallai atal dynion Mercia ar ei ben ei hun.

I Fyny

 

Mab i Frenin (910 O.C.)


Mae brenin Esyllwg yn Ne Cymru, Morgan Mwynfawr, wedi cael mab.

Enw’r bachgen yw Morgan, ar ôl ei dad 67 oed.

Roedd rhai yn ofni na fyddai Morgan yn cael plant o gwbl ac y byddai hynny'n arwain at ryfel ar ôl marwolaeth y brenin. 'Roedd llawer ohonon ni'n poeni,' meddai un o weision y llys. 'Ond mae si bod Morgan wedi'i fendithio gan Duw ac bydd e a phawb yn ei deulu o hyn ymlaen yn byw i fod yn hen a chael plant pan fyddan nhw'n hen iawn.'

Mae'r brenin a'i deulu ar hyn o bryd yn y proses o symud eu llys o Gaerleon i Radur ger Caerdydd ble byddan nhw'n gallu cadw llygad ar y Llychlynwyr sydd yn parhau i ymosod o dro i dro o'r môr. Mae hefyd si bod Morgan yn mynd i sefydlu canolfan arall yn y gorllewin ger Margam.

Morgan yn bendant yw brenin mwyaf poblogaidd Esyllwg ers blynyddoedd. Hyd yn oed pan oedd yn ifanc iawn, roedd yn ymladdwr da ac yn ddiplomydd arbennig. Mae Esyllwg nawr yn cynnwys Fforest Ddena, Gwent, De Powys a rhan o Dde Dyfed.

Mae trafodaeth nawr am newid enw'r wlad. 'Morgannwg', mae'n debyg, ydy dewis cyntaf pobl Cwm Rhymni a Gwent ond mae'n well gan rai yn y gorllewin yr enw 'Gwladmorgan'.

I Fyny

 

Bardd yn Creu Storm (930 O.C.)


Mae cerdd, sy’n cael ei chanu ar draws y wlad, wedi creu storm yr wythnos yma.

Mae'r gerdd, Armes Prydain, yn galw ar y Celtiaid i ddod at ei gilydd i wthio'r Saeson allan o Brydain - ac mae'r awdur hefyd yn galw ar y Llychlynwyr sy'n byw yn Iwerddon i ddod i helpu.

Mae'r gerdd eisoes wedi profi'n boblogaidd - yn enwedig ymysg yr arweinyddion hynny yn Nghymru sydd yn erbyn cynlluniau Brenin Wessex i godi trethi ar y Cymry.

Mae enw'r awdur yn gyfrinach ond o arddull y gerdd mae'n ddeheuwr sy'n gwybod llawer am hanes Prydain . Mae hefyd yn bosib mai mynach ydy e.

Mae rhai yn poeni am effaith y gerdd. Mae Hywel Dda, un o frenhinoedd De Cymru, wedi bod yn ceisio dod i gytundeb â'r Saeson ac wedi treulio llawer o amser gyda brenin Wessex, Athelstan yn Henffordd.

Ddwy flynedd yn ôl, aeth ar bererindod i Rufain gyda'r brenin. Fodd bynnag, mae llawer o bobl Hywel yn erbyn y cytundeb ac os ydy cerddi propaganda fel Armes Prydein yn cael effaith mae'n bosib y byddan nhw'n troi yn erbyn Hywel.

Mae'r gerdd yn darogan y bydd y Celtiaid yn trechu'r Saeson â chymorth Dewi Sant, Cynan a Cadwaladr.

I Fyny

 

Mwy o Hawliau i Ferched (945 O.C.)


Mae rhai o bobl bwysicaf y wlad wedi bod yn cyfarfod yn Nyfed i ddechrau ar y gwaith o baratoi set newydd o gyfreithiau.

Mae’r cynrychiolwyr yn dod o bob rhan o wlad y brenin Hywel ap Cadell a'r bwriad ydy penderfynu'n fuan ar reolau a fydd yn ateb llawer o broblemau barnwyr yn y gwahanol ardaloedd ac yn sicrhau cysondeb.

Ac mae Hywel, neu Hywel Dda fel y mae'n cael ei alw, am wneud yn siwr bod y cyfreithiau'n drwyadl iawn. Mae disgwyl y bydd y pwyllgor yn edrych yn ofalus ar bob agwedd ar fywyd heddiw - dyletswyddau, gwerthoedd a chosbau disgwyliedig. Mae sôn hefyd fod y brenin am wneud teuluoedd yn gyfrifol am ymddygiad eu haelodau eu hunain.

Mae marched hefyd am gael tipyn o sylw. Mae'n bosib, yn hyn o beth, bod Hywel wedi dod dan ddylanwad ei wraig, Elen, sydd yn aelod o un o deuluoedd hynaf Dyfed. Gall y cyfreithiau newydd ei wneud yn bosib i ferch ysgaru ei gwr am fod â gwynt drwg ar ei anadl.

Bydd Hywel ei hun yn gadael y cyfarfod yn Hendy-gwyn yr wythnos nesaf i deithio i lawr i Wessex ble bydd yn cyfarfod ag Athelstan, brenin y wlad honno. Mae Hywel eisoes wedi ennill enw iddo fe'i un fel tipyn o ddiplomydd ac mae gobeithion y bydd yn gallu sicrhau heddwch.

I Fyny

 

Gwreiddiau Groegaidd Newydd wedi’u Cyhoeddi (1136)


Mae pobl Prydain yn dod o wlad Groeg yn wreiddiol!

Dyna’r newyddion a ddaeth yr wythnos hon pan gyhoeddodd Sieffre o Fynwy ei gronicl newydd am hanes yr ynysoedd.

Yn y cronicl, Historia Regum Britanniae (Hanes Brenhinoedd Prydain), mae Sieffre yn dweud bod hanes Prydain yn dechrau yng Nghaerdroea. Pan ddaeth y Groegiaid i orchfygu'r ddinas, trwy fynd â cheffyl pren enfawr i mewn trwy'r clwydi, cafodd llawer o bobl Caerdroea eu lladd. Ond llwyddodd dyn o'r enw Aeneas a'i fab, Ascanius, i ddianc ac aethon nhw i'r Eidal. Aethon nhw'n syth ati i godi dinas arall - Rhufain. Ar ôl rhai blynyddoedd, penderfynodd wyr Ascanius - Brutus - fynd i chwilio am wlad arall a daeth i Brydain - gwlad Brutus.

Dyma, efallai, pam mae cymaint o eiriau Cymraeg sydd yn debyg i eiriau yn iaith gwlad Groeg.

Nid dim ond hanes Brutus sy yng ngwaith Sieffre. Mae'r gwaith yn rhoi hanes y Rhufeiniaid a'r Saeson yn cyrraedd a hanes y brenin Arthur, ac mae un rhan o'r Cronicl yn edrych ar y dyfodol trwy lygaid bachgen bach o'r enw Myrddin.

Mae Sieffre, 46 oed, yn gwadu ei fod wedi creu'r storiau ei hun. 'Mae popeth yn dod o hen lyfr o Lydaw,' meddai. 'Fy ngwaith i oedd cyfieithu'r cwbl o'r hen iaith Frythoneg i'r Lladin.'

I Fyny

 

Madog ym Mecsico (1180)


Mae Madog ab Owain, y tywysog o Wynedd wedi cael ei weld yn fyw ac yn iach mewn gwlad bell o’r enw Mecsico. Mae'r tywysog a aeth ar goll ar y môr ddeng mlynedd yn ôl wedi'i weld gan Sbaenwr a oedd yn chwilio am drysor.

Mae brawd Madog, Rhiryd, wrth ei fodd. 'Roedd llawer ohonon ni'n ofni ei fod wedi marw,' meddai yn ei gartref yn Abergele neithiwr. 'Roedd e i fod ar ei ffordd i ynys Lundy i gyfarfod â fi, ond wnaeth e ddim cyrraedd. Doedd dim byd i awgrymu bod ei longau wedi mynd i lawr. Roedd tipyn o storm,' meddai Rhiryd, 'ond fel arfer, os oes damwain, mae pethau yn cael eu golchi i fyny ar y traeth.'

Nid oedd brodyr eraill Madog yn barod i siarad â ni neithiwr. Mae'n debyg mai dianc rhagddyn nhw oedd gobaith Madog pan aeth e dros y môr.

Dyna yn sicr mae Rhiryd yn ei gredu. 'Ar ôl i Dad, Owain Gwynedd, farw,' meddai, 'dechreuodd rhai o'r brodyr ffraeo â'i gilydd. Roedd Madog a fi wedi cael llond bol.'

Nid hon oedd taith gyntaf Madog dros yr Iwerydd. Hwyliodd Rhiryd a Madog allan i Mobile Bay, Ynys Lundy, gydag wyth llong yn ôl ym 1169.

Nid oes neb yn siwr beth mae Madog yn ei wneud ym Mecsico, ond yn ôl y Sbaenwr a ddaeth â'r hanes yn ôl, Conez, mae e'n arwain grwp o bobl wyn sy'n byw, fel arfer, mewn gwlad i'r gogledd. Yr awgrym ydy ei fod wedi dod yn gyfeillgar â llwyth o Indiaid Mandan a bod y rheini nawr yn siarad Cymraeg yn rhugl.

I Fyny

 

Sgandal y Teulu Brenhinol (1230)


Daeth Llywelyn ap Iorwerth adref ddoe i weld bod ei wraig wedi bod yn anffyddlon ac yn ôl un o’r bobl sydd yn agos ato, mae'r tywysog wedi gwylltio'n lân.

Eisoes mae e wedi rhoi ei wraig, Siwan, yn y carchar a bydd y dyn arall, Gwilym Brewys o Bowys, yn cael ei grogi yfory.

Mae Llywelyn a Siwan wedi bod yn briod ers pum mlynedd ar hugain ac mae hi wedi bod yn help mawr iddo yn wleidyddol. Ugain mlynedd yn ôl, pan oedd pethau'n ddrwg iawn rhwng Llywelyn a thad Siwan, y brenin John, aeth Siwan yn ôl i Loegr i berswadio'i thad i beidio â chymryd mwy o dir ei gwr.

Erbyn hyn, wrth gwrs, mae Llywelyn yn gryfach o lawer. Mae e'n rheoli rhan fawr o'r wlad ac mae Cymru wedi cael nifer o gonsesiynau arbennig yn y Magna Carta.

Fodd bynnag, mae problemau gwleidyddol difrifol nawr. Does dim mab gan Gwilym Brewys ac os bydd yn marw bydd gelynion Gwilym a Llywelyn yn ceisio hawlio tir Gwilym ym Mhowys.

Mae merch Gwilym yn briod â mab Llywelyn a Siwan, Dafydd.

I Fyny

 

Rebel yn rhoi Cymru ar y Map (1370)


Bu farw Dafydd ap Gwilym, un o feirdd pwysicaf Cymru yn y blynyddoedd diweddar, yn dawel yn ei gartref ger Aberystwyth ddoe, Roedd e’n 50 oed.

Mae llawer o bobl bwysig y wlad wedi talu teyrnged i'r bardd. 'Mae Dafydd wedi rhoi Cymru ar y map,' meddai un. 'Nawr, mae barddoniaeth Cymru yn gallu cystadlu â'r gwaith gorau yn Ewrop. Mae'n ffres ac yn newydd.'

Cafodd Dafydd ei eni ym Mrogynin, ym mhlwyf Llanbadarn Fawr yn Nyfed ym 1230 a dysgodd fod yn fardd gan ei ewythr, Llywelyn ap Gwilym, a oedd yn ddyn pwysig yn y gwasanaeth sifil yng Nghastellnewydd Emlyn.

Yn fuan iawn aeth yn dipyn o rebel. Gwrthododd gadw at y themâu traddodiadol - moliannu uchelwyr a noddwyr er enghraifft - a dechreuodd chwilio am bynciau newydd. Aeth i drafferth yn syth gyda beirdd fel Gruffydd Gryg o Ynys Môn. Mae gormod o lawer o sôn am gariad ac am ramant yn ei waith,' meddai, 'ac am y syniad twp yma o feddwl am y gwynt a'r coed fel pobl a siarad ag adar … wel ...'

Ond mae gwaith Dafydd yn boblogaidd iawn. 'Roedd pobl wedi cael llond bol ar yr hen gerddi diflas 'na am dywysogion,' meddai un dyn ifanc. 'Mae'n braf cael pethau newydd i feddwl amdanyn nhw ac mae tipyn o hiwmor yng ngwaith Dafydd.'

Achosodd Dafydd fwy nag un sgandal yn ei fywyd. 'Roedd Dafydd yn dipyn o foi gyda'r merched,' meddai un o'i ffrindiau. 'Dw i'n cofio unwaith iddo fe gael ei ddal gyda merch â gwallt golau o'r enw Morfudd. Yn anffodus, roedd hi'n briod ac roedd yn rhaid i ni dalu ffortiwn i'r gwr i gael Dafydd allan o drafferth.'

Bydd Dafydd yn cael ei gladdu yfory yn Ystrad Fflur, Dyfed.

I Fyny

 

Allan Reg! - Rhybudd Glyndwr (1400)


Bu ymladd ffyrnig yn Rhuthun yr wythnos hon rhwng dynion Owain Glyndwr o Sycharth ger Amwythig a Reginald Grey, Arglwydd Rhuthun.

Dechreuodd y problemau rai wythnosau yn ôl pan symudodd Grey i ardal a oedd wedi cael ei roi i Glyndwr gan gyn-frenin Lloegr. Gofynnodd Glyndwr i senedd Lloegr am gymorth i wthio Grey o’i dir ond pan aeth Siôn Trefor, Esgob Llanelwy, i lawr i Lundain i esbonio'r broblem yr ateb a gafodd oedd 'What care we for the barefoot rascals?' Gwylltiodd Glyndwr, yn arbennig ar ôl i'r brenin newydd, Harri IV, hefyd wrthod ei gynorthwyo. Yn gynnar yr wythnos hon, ymosododd Glyndwr ar Ruthun ac mae ei ffrindiau eisoes wedi cyhoeddi mai Owain ydy Tywysog newydd Cymru.

Mae'n edrych yn debyg y bydd y gwrthryfel yn datblygu'n gyflym. Mae gan Glyndwr, sydd yn 50 oed, deulu ym Mhowys, cartref ei dad, a'r de-orllewin, cartref ei fam. Mae teulu a ffrindiau ganddo hefyd yng Ngwynedd.

Mae rhai o deuluoedd pwysicaf Lloegr, sydd yn anhapus â'r ffordd mae Harri IV yn rhedeg y wlad, hefyd wedi dweud eu bod nhw'n mynd i gefnogi Glyndwr. Dau o'r rhain yw teulu Northumberland a theulu Mortimer. Mae Catherine, merch Glyndwr, eisoes yn briod ag Edmwnd Mortimer.

Os bydd Glyndwr yn llwyddo i uno Cymru i gyd, bydd yn sicr o wneud rhai newidiadau mawr. Mae e eisoes wedi dweud ei fod am weld yr Eglwys yng Nghymru yn annibynnol ar yr Eglwys yng Nghaer-gaint ac mae'n awyddus i sefydlu dwy brifysgol yn y wlad.

Does dim sicrwydd chwaith y bydd yn barod i dderbyn awdurdod y Pab yn Rhufain. Mae sôn ei fod e eisoes yn meddwl gofyn i bobl Cymru dderbyn y pab arall yn Avignon os bydd Siarl VI, brenin Ffrainc, yn ei gefnogi yn erbyn brenin Lloegr.

I Fyny

 

Dim gwaith i Siaradwyr Cymraeg (1536)


Os nad ydych chi’n siarad Saesneg bydd yn amhosib i chi gael swydd bwysig o yfory ymlaen. Mae'r Ddeddf Uno newydd sydd yn dod i rym am hanner nos heno yn nodi'n glir bod eisiau cael gwared ar y Gymraeg ac arferion Cymru.

Mae'r Ddeddf yn dileu 'all and singular the sinister usages and customs (of Wales)'. Pwrpas hyn, yn ôl y bobl a luniodd y Ddeddf, ydy rhoi hwb i fasnach yng Nghymru.

'Mae pobl Cymru yn defnyddio iaith nad yw'n cael ei siarad gan bobl eraill yn y byd,' meddai un. 'O hyn ymlaen, bydd Lloegr a Chymru yn un wlad gydag un iaith.'

Ond mae'r Ddeddf wedi cael ei beirnu'n hallt. 'Dim ond pump y cant o bobl Cymru sydd yn gallu siarad Saesneg,' meddai un sylwebydd. 'Bydd y Ddeddf hon yn rhoi'r swyddi pwysig i gyd i'r un bobl.' Mae rhai hefyd yn anfodlon bod cyfraith Lloegr yn mynd i ddisodli cyfraith Hywel yng Nghymru.

Mae'n debyg bod hyn i gyd wedi digwydd am fod y brenin Harri VIII eisiau ysgaru'i wraig, Catrin o Aragon. 'Doedd y Pab ddim yn hapus,' meddai un o ffrindiau'r brenin. 'Felly, penderfynodd Harri gymryd yr Eglwys drosodd ei hun. Roedd e'n poeni ychydig am Gymru a'r Gororau a phenderfynodd eu huno nhw dan yr un faner.'

Mae'r beirdd wedi bod yn dawel iawn am y newidiadau hyn. 'Byddai'n dwp i ni ddweud gormod,' meddai un. 'Mae'n noddwyr ni yn y pump y cant a fydd yn y swyddi pwysig. Bydd yn rhaid aros i weld a fydd hyn yn cael unrhyw effaith ar yr iaith Gymraeg ei hun.'

I Fyny

 

Enwau Newydd i Bawb! (1546)


Mae pobl Cymru yn mynd i gael enwau newydd!

Nawr, wrth gwrs, mae pawb yn mabwysiadu enw ei dad. Geraint ap Llywelyn yw mab Llywelyn. Ond mae’r system yma yn achosi llawer o ddryswch i'r llywodraeth.

'Y broblem ydy bod gormod o enwau,' meddai llefarydd. 'Bob tro mae person yn cael plentyn mae enw'r teulu yn newid. Mab Siôn ap Huw yw Dafydd ap Siôn. Mab Dafydd ap Siôn yw Rhys ap Dafydd! Mae'r peth yn wirion.'

Dan y system newydd bydd teuluoedd yng Nghymru yn cadw'r un cyfenw am byth. 'Dyna sydd yn digwydd yn Lloegr,' meddai'r llefarydd. 'Ac mae Lloegr a Chymru yn un wlad er y Ddeddf Uno ddeng mlynedd yn ôl.'

Felly, sut byddwch chi'n cael eich enw newydd? Wel, bydd llawer yn dibynnu ar enw'r penteulu nawr. Bydd teulu Siôn ap Rhisiart yn cadw'r enw Richard am byth ac, fel arfer, bydd y gair Saesneg 'son' (neu dim ond yr 's') yn cael ei ychwanegu. Felly, bydd ap Rhisiart yn troi yn Richards, bydd ab ifan yn troi yn Ifans neu Evans, a bydd ap William yn troi yn Williams.

"Byddwn ni'n ceisio cael gwared ar rai enwau," meddai'r llefarydd, "am eu bod nhw'n rhy anodd " enwau ofnadwy fel Meilir, Llywarch a Gwalchmai."

Felly, bydd rhai teuluoedd yn cael enwau newydd sbon! Weithiau, bydd yr enwau newydd yn dod o'r Beibl ond bydd llawer o deuluoedd hefyd yn cael enwau brenhinol fel John, David, Richard, Henry a Charles.

I Fyny

 

Cwrs Cymraeg Newydd i Ddysgwyr (1550)


Cyhoeddwyd cwrs newydd yn ddiweddar i Saeson sydd am ddarllen Cymraeg a dysgu ei hynganu.

Awdur y gwaith ydy William Salesbury a chafodd y llyfr - ’A brief and a plain introduction, teaching how to pronounce the letters in the British Tongue, (now commonly called Welsh)' ei gyhoeddi gan Crawley yn Llundain.

Cyhoeddodd Salesbury eiriadur dair blynedd yn ôl.

Yn ei gyflwyniad i'r cwrs newydd mae Salesbury yn nodi iddo gael ei annog i wneud y gwaith gan farchnatwyr a gweinyddwyr o'r Gororau oedd yn awyddus i gyfathrebu â siaradwyr Cymraeg. Dydy siaradwyr Cymraeg ddim wedi'u penodi i lawer o swyddi allweddol er y Ddeddf Uno bedair blynedd ar ddeg yn ôl felly mae prinder swyddogion Cymraeg eu hiaith erbyn hyn. Mae swyddogion Cyngor y Gororau ger Lwydlo eisoes wedi mynegi diddordeb.

Roedd Salesbury hefyd wedi cael ei annog i lunio'r cwrs gan unigolion a oedd wedi symud o Gymru'n ifanc ac yn awyddus i adnewyddu eu cysylltiadau Cymreig. Mae llawer o Gymraeg i'w chlywed yng nghanolfannau Lloegr. Yn Llundain mae 20 y cant o'r boblogaeth yn Gymry.

Mae ysgolheigion dyngarol sy'n ymddiddori mewn ieithoedd hefyd wedi mynegi diddordeb yn y cwrs. Mae Salesbury yn gobeithio y bydd y gwaith yn hybu cyfeillgarwch a chariad at gyd-ddyn.

I Fyny

 

Stori’r Geni - yn Gymraeg am y tro cyntaf (1588)


Mae’r Beibl i gyd, yr Hen Destament a'r Testament Newydd, ar gael yn Gymraeg erbyn hyn, diolch i William Morgan, ficer Llanrhaeadr ym Mochnant Sir Ddinbych.

Mae'r copïau cyntaf eisoes wedi cael croeso mawr gan eglwyswyr a beirdd fel Sion Tudur a Sion Dafydd. Ac mae'r Frenhines wedi dweud bod yn rhaid gwneud yn siwr bod copi ym mhob eglwys yng Nghymru erbyn y Nadolig.

Nid pawb oedd eisiau gweld y Beibl yn Gymraeg. Roedd nifer yn credu y byddai'n well dysgu Saesneg i bobl Cymru a gadael iddyn nhw ddarllen y fersiwn Saesneg. Ond roedd Morgan, 43 oed, yn credu bod dyfodol ysbrydol y Cymry yn dibynnu ar gael cyfieithiad o'r Beibl.

Dechreuodd e ar y gwaith rai blynyddoedd yn ôl ond bron iawn iddo roi'r ffidil yn y to unwaith. 'Roeddwn i wedi bod trwy gyfnod drwg,' meddai. 'Roedd gweithio ar y cyfieithiad heb lyfrgell yn anodd ac roedd problemau personol gartref. Wedyn, daeth problemau ariannol hefyd.'

Ond y llynedd, cafodd lythyr oddi wrth yr Archesgob Whitgift yn gofyn iddo fynd i lawr i Lundain i orffen y gwaith.

Mae'r iaith mae Morgan yn ei defnyddio yn y Beibl yn naturiol ac yn syml ac mae hyn hefyd wedi cael croeso gan y rhai a oedd yn meddwl bod hen gyfieithiad William Salesbury o'r Testament Newydd yn rhy gymhleth.

Mae sôn nawr bod gan Morgan ddiddordeb mewn mynd yn esgob - i Landaf o bosib. Mae ganddo syniadau hefyd ar gyfer nifer o lyfrau eraill gan gynnwys Llyfr Gweddi newydd a geiriadur Cymraeg.

I Fyny

 

Llifogydd Mawr Cymru (1607)


Mae llifogydd enfawr wedi lladd dros 2,000 o bobl ac wedi effeithio ar 355 milltir o arfordir o gwmpas Môr Hafren.

Aeth y llifogydd sydyn ddiwedd Ionawr â thai, ffermydd ac anifeiliaid. Dim ond adeiladau cryf fel eglwysi a oedd yn dal i sefyll. Mewn rhai ardaloedd, roedd hyd yn oed adeiladau carreg enfawr wedi’u dinistrio. Yng Nghaerdydd, diflannodd Eglwys y Santes Fair dan y dwr.

Yn ôl y bobl hynny a lwyddodd i ddianc rhag y llifogydd y peth cyntaf a welwyd oedd mur o ddwr. Roedd y mur yn edrych fel pe bai ar dân. Oherwydd i'r llifogydd gyrraedd yn gynnar yn y diwrnod gwaith, roedd pobl yn brysur ac ychydig iawn oedd wedi sylwi ar y dwr mewn pryd. Doedd ganddyn nhw ddim amser i amddiffyn eu tai na'u mannau gwaith.

Mae llawer o bentrefi fel Cogan wedi diflannu yn llwyr ac maen nhw'n annhebyg o gael eu hailadeiladu ar y safle gwreiddiol. Mae'r rheini a ddaeth trwy'r llifogydd yn wynebu tlodi a salwch.

Y flaenoriaeth nawr yw ailgodi cymunedau. Mewn amser, disgwylir y bydd placiau er cof yn cael eu gosod mewn eglwysi fel Goldcliff, St Brides a Peterstone.

I Fyny

 

Arestio gwyddonydd am ysbïo (1699)


Mae Edward Lhuyd, y gwyddonydd o Groesoswallt, wedi cael ei arestio yn Llydaw am ysbïo.

Roedd Lhuyd, 39 oed, yn Llydaw yn casglu data archeolegol i’r Archaeologia Britannica, pan gafodd ei ddal. Roedd eisoes wedi bod yng Nghymru, yr Alban, Iwerddon a Chernyw.

Ond mae'n debyg bod heddlu Ffrainc yn fwy amheus o bobl estron.

'Maen nhw erbyn hyn yn dechrau credu'i stori,' meddai un o ffrindiau Lhuyd. ''Dyn ni'n gobeithio y bydd e allan o'r carchar erbyn y penwythnos.'

Os na fydd unrhyw broblemau mawr, bydd Lhuyd yn aros yn Llydaw am dipyn i orffen ei waith cyn mynd yn ôl i Rydychen i ddechrau rhoi trefn ar y nodiadau.

Mae Lhuyd hefyd wedi bod yn casglu gwybodaeth am blanhigion.

'Planhigion yw ei gariad cyntaf,' meddai un arall o ffrindiau'r teulu. 'Mae e'n gwybod am bob planhigyn yn y wlad. Pan aeth e i lawr i'r coleg yn Rhydychen cafodd gyfle i weld y gwaith gwyddonol mawr a oedd yn digwydd yn Amgueddfa Ashmole,' meddai.

Gadawodd Lhuyd y coleg cyn gorffen ei gwrs a chafodd swydd yn yr amgueddfa. Mae wedi bod yn gweithio'n galed ym myd botaneg ac archaeoleg ers hynny. Mae e'n siarad nifer o ieithoedd ac mae sôn bod Lhuyd wedi bod yn gwneud nodiadau ar eirfa a gramadeg wrth deithio o wlad i wlad.

Yn ystod ymweliad â Gogledd Cymru mae sôn ei fod wedi dod o hyd i fedd Gwrtheyrn mewn cwm o dan fynydd Eifl.

I Fyny

 

Athro’n troi’n rebel (1760)


Daeth y newyddion da yr wythnos hon fod y ffrae fawr rhwng Howell Harris, trefnydd cyntaf y Diwygiad Methodistaidd, a’r arweinwyr eraill, William Williams, Pantycelyn a Daniel Rowland, drosodd o'r diwedd.

Aeth pethau'n gas iawn chwe blynedd yn ôl pan benderfynodd Harris, sydd nawr yn 46 oed, ei fod e eisiau dilyn John Wesley. Roedd Williams a Rowland eisoes wedi dewis derbyn syniadau Calfin.

Roedd rhai o'r Methodistiaid hefyd yn anhapus iawn bod Harris yn treulio cymaint o amser gyda Madam Sidney Griffith, gwraig briod o Gefnamlwch.

Mae Harris wedi bod yn brysur iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn syth ar ôl y ffrae aeth ati i ddechrau comiwn yn Nhrefeca, Powys, i Fethodistiaid eraill a thair blynedd yn ôl dechreuodd e wasg yn yr un lle.

Yn Nhrefeca y cafodd Harris ei eni ac yn yr ardal honno hefyd y cafodd e ei dröedigaeth. "Roedd yn 21 oed ar y pryd ac yn athro ysgol," meddai un o ffrindiau'r teulu. Un bore aeth i glywed ficer Talgarth yn pregethu a phenderfynodd e yn sydyn ei fod e eisiau bod yn offeiriad."

Aeth i'r coleg yn Rhydychen ond dim ond am rai dyddiau. 'Doedd e ddim yn mwynhau'r bywyd yno," meddai'r ffrind, ''felly daeth e nôl gan obeithio y byddai'n gallu cael ei ordeinio'n lleol. "

Ond doedd yr esgob ddim eisiau iddo fod yn offeiriad. 'Roedd yn dipyn o rebel,' meddai ffrind arall. 'Roedd e eisiau pregethu allan yn yr awyr agored ac mewn tai preifat.' Yn fuan, trodd Harris at y Methodistiaid. Nawr, ar ôl blynyddoedd o anghytuno, mae gobaith y bydd Harris, Williams a Rowland yn cydweithio'n agos unwaith eto.

I Fyny

 

Cynnal Seremoni Gyntaf Gorsedd y Beirdd yn Llundain (1792)


Cynhaliwyd seremoni gyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ar Primrose Hill yn Llundain ddoe.

Penderfynwyd cynnal y seremoni ar ôl i Iolo Morganwg ddarganfod llawysgrifau yng Nghastell Rhaglan sy’n ymwneud â hen ddefodau'r derwyddon. Roedd Iolo wedi cael cefnogaeth beirdd a'r Cymmrodorion - sefydliad yn Llundain sydd yn hybu diwylliant Cymraeg.

Mae sefydlu Gorsedd y Beirdd ar 22ain o Fedi - Alban Elfed - yn un o nifer o fentrau i roi sylw syledus i'r iaith Gymraeg - sy'n cael ei siarad gan 80 y cant o bobl Cymru. Mae Cymry Llundain hefyd wedi bod yn ddylanwadol wrth gefnogi eisteddfodau a chyhoeddi Cymraeg ac wedi noddi ysgolheigion a llenorion.

Does dim, cyswllt rhwng yr Orsedd a'r eisteddfodau - er bod diddordeb gan rai mewn uno'r ddau beth.

Mae rhai yn gweld yr Orsedd fel rhan o fudiad gwrthganoli radical poblogaidd yn Llundain. Mae'n dod ar ddiwedd y ganrif a welodd gwrthryfel yn Ffrainc a'r Boston Tea Party.

I Fyny

 

Merched yn Trechu’r Ffrancod yn Abergwaun (1797)


Mae adroddiadau yn cyrraedd sy’n nodi bod tasglu o Ffrainc wedi'u trechu gan grwp o ferched yn Abergwaun.

Roedd y marched, dan arweiniad Jemeima Nicholas, 47 oed, wedi sylweddoli bod y milwyr lleol i gyd i ffwrdd yn cael eu hyfforddi ac na fydden nhw yn ôl mewn pryd i atal y Ffrancod a oedd ar fin glanio ar draethau Penfro.

Penderfynodd y merched wisgo eu gwisg draddodiadol - hetiau du tal, sgertiau du a siolau coch - a dringo i ben y clogwyni gan gario'u celfi'r fferm.

Cafodd y Ffrancod fraw. Pan laniodd y llynges gyda 1,000 o filwyr roedden nhw'n argyhoeddiedig mai milwyr ffyrnig oedd yn aros ar y clogwyni a phenderfynon nhw oedi cyn ymosod. Rhoddodd hyn ddigon o amser i'r Arglwydd Cawdor a milwyr Penfro ddychwelyd. Gan feddwl eu bod bellach yn wynebu dwy fyddin, ildiodd y Ffrancod. Mae adroddiadau bod Jemeima Nicholas wedi carcharu 14 o Ffrancod ei hun.

Mae rhai yn credu bod y llynges wedi bwriadu glanio yn Iwerddon, lle roedden nhw i fod i ymladd ar ochr y Gwyddelod Unedig. Yn anffodus, cododd storm fawr a bu'n rhaid iddyn nhw newid cyfeiriad.

I Fyny

 

22 yn Marw ar ôl Protest Hawliau (1839)


Cafodd 22 o ddynion eu lladd a hanner cant eu hanafu’n ddrwg gan filwyr y Llywodraeth yng Nghasnewydd ddoe.

Dechreuodd y problemau yn gynnar yn y bore pan redodd ugain mil o bobl i lawr Stow Hill i ganol y ddinas i brotestio yn erbyn tlodi a diffyg democratiaeth. Pan gyrhaeddon nhw Westy'r Westgate dechreuodd y milwyr a oedd yn yr adeilad saethu.

Cafodd tri o arweinwyr y protestwyr, John Frost, Zephaniah Williams a William Jones, eu harestio. Mae'n bosib nawr y bydd y tri yn cael eu dedfrydu i farwolaeth neu eu hanfon i Awstralia.

Nid dyma'r brotest gyntaf yn ne Cymru eleni. Roedd trafferth yn Llanidloes ym mis Ebrill ac ym mis Mai cafodd Henry Vincent, un o arweinwyr y gweithwyr, ei arestio. Ond dechreuodd pethau fynd yn gas iawn ym mis Gorffennaf pan ddywedodd y Llywodraeth yn Llundain na fyddai'n barod i dderbyn siarter newydd gan y gweithwyr.

Roedd y siarter wedi cael ei harwyddo gan filiwn a chwarter o ddynion ac roedd yn gofyn am bleidlais i bob dyn, ardaloedd etholiadol teg, senedd bob blwyddyn a thâl i aelodau seneddol. Roedd y siarter hefyd yn galw ar y Llywodraeth i ddileu'r rheol sydd yn dweud bod yn rhaid i aelodau seneddol fod yn berchnogion tir. Eu gobaith oedd y byddai'n bosib i weithwyr cyffredin gael lle yn y Senedd.

I Fyny

 

Deddf Newydd i’r Pyllau Glo (1842)


Mae deddf newydd wedi dod i rym sy’n rhwystro menywod a bechgyn dan ddeg oed rhag gweithio mewn pyllau glo.

Does dim cymal yn ymwneud ag oriau gwaith yn y Ddeddf.

Mae amgylchiadau gwaith wedi bod yn bryder ers blynyddoedd. Mae sôn bod merched yn gorfod gwisgo gwregysau tyn o gwmpas eu canol a chadwyni o gwmpas eu coesau er mwyn tynnu llwythi trwm - hyd yn oed pan oedden yn feichiog. Mae sôn hefydv am blant yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain mewn lleoedd tywyll, llaith am gyfnodau hir.

Mae'r peryglon yn y pyllau hefyd wedi cael sylw yn ddiweddar. Mae methan, carbon monocsid a charbon deuocsid wedi eu darganfod ac mae ymdrechion i awyru a goleuo'r pyllau wedi arwain at ffrwydradau. Mae iechyd y glowyr - yn enwedig y merched a'r plant - wedi dod yn bwnc llosg. Ymhlith y problemau penodol mae arbeinigwyr wedi tynnu sylw at ddiffyg tyfu, coesau efrydd, clefyd y galon, rhwygiadau, asthma, broncitis a'r cymalwst.

Mae llawer o golofnwyr wedi sôn hefyd am y ffaith bod yn rhaid i ferched wisgo trowsus yn y pyllau. Mae hyn yn anfoesol i rai.

Er gwaetha'r amgylchiadau, mae rhai marched yn anhapus iawn am y ddeddf newydd a'r ffordd mae'n effeithio ar eu gallu i ennill cyflog. Mae glowyr yn mwynhau cyflogau gwell na rhai gweithwyr ac mae safon eu bwyd a'u dillad yn well nag y byddai'r amgylchiadau gwaith yn awgrymu.

I Fyny

 

Bechgyn y Tollbyrth yn Chwerthin am Ddedfryd Alltudiaeth (1844)


Mae adroddiadau bod y ddau arweinydd, a gafwyd yn euog o ddechrau terfysgoedd Rebeca, wedi chwerthin wrth glywed eu bod yn cael eu halltudio i Awstralia.

Roedd y ddau wedi cael eu harestio ar ôl ymosodiadau ar dollbyrth ym Mis Medi yn Llanelwedd a Rhaeadr.

Mae’r alltudio yn dod â phum mlynedd o brotestiadau i ben er 6 Mehefin 1839 pan benderfynodd ffermwyr oedd yn anhapus am y tollau roedden nhw'n gorfod eu talu wrth fynd â gwartheg i'r farchnad ddinistrio tollborth gan ei losgi i'r ddaear. Roedd y ffermwyr wedi gwisgo fel merched fel na fyddai neb yn eu nabod.

Yn ôl y ffermwyr, roedd y tollau yn faich ar adeg pan oedd y cynhaeaf wedi methu a phrisiau da byw yn isel. Roedden nhw hefyd yn ddig bod yr Eglwys wedi codi'r taliadau degwm.

Does neb yn sicr pam y dewisodd y ffermwyr yr enw Rebeca. Mae rhai yn dweud mai hi oedd y ferch a roddodd ei dillad i arweinydd y protest, Twm Carnabwth, ar ddechrau'r ymgyrch. Mae eraill yn cyfeirio at ddarn o'r hen destament pan ddywedwyd wrth Rebeca am fod yn 'fam i'r miloedd a gadael i'w had feddiannu pyrth y rhai sy'n eu casáu.'

I Fyny

 

Plant Cymru - Brwnt, Diog a Thwp! (1847)


Mae adroddiad am addysg yng Nghymru wedi achosi storm yr wythnos hon. Daeth yr adroddiad tair cyfrol o’r wasg ddydd Mercher ac mae'n dweud nad oes digon o ysgolion i blant, bod yr ysgolion eu hunain mewn cyflwr gwael iawn a bod prinder llyfrau.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud nad ydy'r athrawon yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud a bod gormod o blant yn aros gartref yn lle mynd i gael gwersi.

Oherwydd hyn, meddai'r awduron, dydy'r plant ddim yn dysgu siarad Saesneg yn iawn. Ond yr hyn sydd wedi gwylltio pobl trwy Gymru ydy'r awgrym bod y Cymry yn frwnt, yn ddiog, yn dwp, yn ofergoelus ac yn feddw!

Mae'r tri dyn di-Gymraeg sydd wedi ysgrifennu'r adroddiad, Lingen, Symons a Johnson, wedi cael eu beirniadu gan rieni, athrawon a phobl y capeli.

"Sut roedden nhw'n gallu deall beth oedd yn digwydd yn yr ysgolion?" gofynnodd un rhiant. "Dydyn nhw ddim yn siarad Cymraeg." A dywedodd un capelwr ei fod yn poeni bod y tri wedi ysgrifennu'r adroddiad i wneud drwg i Anghydffurfiaeth. "Pobl yr Eglwys ydyn nhw," meddai. ''Anglicaniaid. Ac Anglicaniaid ydy'r bobl sydd wedi eu hanfon nhw yma. Dyn ni ddim yn ofergoelus o gwbl."

William Williams, Aelod Seneddol Coventry, a ofynnodd i'r Llywodraeth gomisiynu'r adroddiad a'i bwrpas, yn wreiddiol, oedd edrych ar y cyfle mae plant Cymru yn ei gael i ddysgu Saesneg yn yr ysgol.

Glas yw lliw'r llyfrau ac mae rhai eisoes wedi dechrau siarad am Frad y Llyfrau Gleision.

I Fyny

 

Undeb Rygbi yn Cael ei Sefydlu ond y Tafarnau ar gau ar y Sul (1881)


Ar gau ar y Sul o hyn
ymlaen

Daeth clybiau rygbi ledled Cymru at ei gilydd yr wythnos hon I sefydlu Undeb Rygbi Cymru. O hyn ymlaen yr undeb newydd fydd yn trefnu gemau Cymru.

Dim ond ers deng mlynedd mae rygbi wedi cael ei chwarae yng Nghymru ac ar y dechrau dim ond plant dosbarth canol mewn trefi ar lan y mor oedd yn chwarae. Yn sydyn, fodd bynnag, daeth rygbi yn boblogaidd yng nghymoedd y De-ddwyrain. Nawr disgwylir y bydd yr undeb yn trefnu tim cenedlaethol I chwarae yn erbyn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.

Fodd bynnag, bydd yn rhaid i unrhyw ddathliadau nos Sadwrn orffen am hanner nos o hyn ymlaen. Mae deddf newydd a basiwyd yr wythnos hon yn y Senedd yn golygu y bydd yn rhaid i bob tafarn yng Nghymru gau ar y Sul. Dyma'r tro cyntaf er y Ddeddf Uno i'r Senedd basio deddfwriaeth sydd ond yn effeithio ar Gymru.

Mae'r ddeddf newydd wedi plesio'r miloedd o ddirwestwyr sydd yn poeni am effeithiau alcohol.

Cyhoeddwyd y newyddion nos Fercher a rhedodd cannoedd I'r strydoedd dan ganu emyn dirwestol enwog Henry Lloyd, I bob un sy'n ffyddlon.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r mudiad gwrth-alcohol wedi bod yn tyfu. Mae nofelau wedi cael eu hysgrifennu I dynnu sylw ar beryglon y ddiod gadarn ac mae cymdeithasau wedi cael eu sefydlu ar gyfer dirwestwyr. Mae un ohonyn nhw y Band of Hope, yn boblogaidd iawn ymhlith pobl ifainc.

I Fyny

 

Colli S.R. (1885)


Yr wythnos hon, bu farw un o weinidogion enwocaf Cymru - Samuel Roberts. Roedd yn 85 oed.

Bydd Mr Roberts, neu S.R., yn cael ei gofio yn arbennig am ei syniadau radical. Roedd yn erbyn imperialaeth Lloegr a defnyddio caethweision. Ac roedd yn credu bod pobl o’r tu allan yn ymyrryd gormod o lawer yn y system addysg yng Nghymru.

Cafodd Samuel Roberts ei eni yn Llanbryn-mair, Powys, ym 1800 ac aeth i'r ysgol yn Amwythig ac yn Llanfyllin. Cafodd e ei ordeinio yn weinidog pan oedd yn 27 oed a bu'n gweithio yn yr un capel a'i dad yn Llanbryn-mair am rai blynyddoedd.

Ym 1843, lansiodd ei gylchgrawn enwog, Y Cronicl. a dechreuodd pobl ddysgu am ei syniadau.

Pan oedd yn 57 oed, cafodd ffrae fawr gyda theulu Williams-Wynn, stad Wynnstay, sydd yn berchen ar 150,000 acer o dir yng ngogledd Cymru. Penderfynodd adael ei fferm ym Mhowys a symud i fyw i Tennessee, Amenca.

Ond roedd America yng nghanol rhyfel cartref a doedd syniadau Samuel Roberts am heddychiaeth ddim yn boblogaidd. Aeth i drwbl gyda'r ddwy ochr ac ar ôl deng mlynedd yn Tennessee, daeth yn ôl i Gymru wedi colli llawer o arian.

Trwy'r Cronicl, tynnodd sylw pobl at yr angen am fwy o reilffyrdd yng Nghymru ac am bleidlais i bawb - hyd yn oed merched! A rhybuddiodd yn erbyn yfed gormod o alcohol a siopau caeedig mewn ffatrïoedd.

I Fyny

 

Colli Dyn y Dociau (1890)


Yr wythnos hon, bu farw David Davies, un o ddynion busnes mwya’r ganrif hon. Roedd Mr Davies yn 72 oed.

Bydd Cymru yn cofio amdano fel diwydiannwr a gwleidydd ond cafodd ei fagu mewn amgylchiadau digon tlawd. Busnes coed yn Llandinam ym Mhowys oedd gan ei dad ac aeth David Davies i weithio yno ar ôl gadael yr ysgol yn 11 oed.

Arhosodd e yn yr un lle am 17 mlynedd ond pan oedd yn 28 oed cafodd e gomisiwn i godi pont dros afon Hafren yn Llandinam. Roedd y bont yn llwyddiant mawr a chafodd e waith wedyn yn gosod rheilffyrdd.

Erbyn 1864, roedd gan Davies, a oedd erbyn hynny yn 46 oed, ddigon o arian i ddechrau busnes glo. Symudodd i lawr i'r Rhondda Fawr ym Morgannwg Ganol a suddodd e byllau'r Parc a'r Maendy.

Yn fuan roedd e hefyd yn rhedeg pyllau Ocean Merthyr ac ym 1887 dechreuodd e gwmni newydd, yr Ocean Coal Company, a ddaeth yn enwog trwy'r byd yn gyflym iawn.

Dim ond un peth oedd yn dal y cwmni yn ôl - costau uchel allforio glo trwy ddociau Caerdydd. Ar ôl ffrae gyda'r Arglwydd Bute, penderfynodd Davies y byddai'n rhatach iddo fe godi doc newydd. Y Barri oedd y lle amlwg i wneud hynny am fod harbwr dwfn naturiol yno. Nawr mae disgwyl y bydd wyresau Davies, Gwendoline (8 oed) a Margaret (6 oed), yn etifeddu llawer o'i arian.

I Fyny

 

Coleg Newydd Ar y Gweill (1892)


Bydd coleg newydd i bobl sydd am ddod yn weinidogion ym Mangor.

Syniad Michael D Jones, cyn bennaeth Coleg Bala, yw’r coleg fydd yn gweithredu dan yr enw 'Coleg Bala-Bangor'.

Mae Mr Jones, o Lanuwchllyn, eisoes wedi gwneud enw i'w hun yng Nghymru ac America. Pedwar deg pump mlynedd yn ôl, pan oedd e'n 25 oed, teithiodd i Cinicinnati i gefnogi allfudwyr a aeth o Gymru o achos prisiau rhent uchel. Roedd llawer wedi'u twyllo wrth gyrraedd America.

Yno, cafodd Michael D Jones ei weledigaeth - gwladfa i Gymry Cymraeg yn America. Y syniad oedd y byddai'n annibynnol ac y baddai 'capel, ysgol a senedd.'

Yn gyntaf roedd Mr Jones eisiau gweld gwladfa yng Ngogledd America ond roedd e'n ofni bod y Saesneg yn rhy gryf yno'n barod ac y baddai'n anodd i'r Cymry gadw eu hiaith.

De America a Phatagonia, yn enwedig, oedd yn apelio ato.

Pan ymddeolodd ei dad o'I swydd fel Pennaeth Coleg y Bala, daeth Michael D Jones yn ôl i Gymru i gymryd ei le ac i ennill cefnogaeth ar gyfer ei weledigaeth. Dechreuodd apêl i godi arian ac yn fuan roedd y Cymry cyntaf ar eu ffordd i Dde America.

Ymddiswyddodd fel Pennaeth Coleg y Bala ar ôl ffrae. Bydd y coleg newydd yn agor yn fuan mewn adeilad coch ym Mangor Uchaf.

I Fyny

 

Marw Arglwyddes Llanofer (Augusta Hall) (1896)


Ddoe, bu farw Arglwyddes Llanofer yn 94 oed. Bydd hi'n cael ei chladdu yn Eglwys Bartholomew Sant gyda'i gŵr a fu farw naw mlynedd ar hugain yn ôl.

Cafodd Augusta Waddington ei geni, ym 1802, i rieni o Nottingham. Priododd Benjamin Hall, Abercarn, a fu'n Aelod Seneddol am ddwy flynedd ar hugain cyn mynd i Dŷ'r Arglwyddi. Yn ystod ei gyfnod yn Llundain, bu Benjamin Hall yn un o gefnogwyr mwyaf yr iaith Gymraeg a hawliau siaradwyr yr iaith.

Ym 1828, penderfynodd Syr Benjamin a'r Arglwyddes Hall gomisynu cartref newydd, Tŷ Llanofer, a fyddai'n ganolfan ar gyfer hywyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Mynnwyd bod gweithwyr y stad, tenantiaid a gwesteion yn gwisgo gwisg draddodiadol o wlân. Y Gymraeg oedd unig iaith y stad ac am y rheswm hwnnw recriwtiwyd llawer o'r staff o orllewin Cymru.

Yr oedd lle arbennig i'r delyn yn Llanofer. Rhoddwyd swyddi parhaol i delynorion a oedd yn canu'r delyn deires a rhoddwyd cefnogaeth i seiri telynau lleol. Aeth yr Arglwyddes ati i gasglu a chyhoeddi canu gwerin a gwahoddwyd rhai o gerddorion a chyfansoddwyr mwyaf y cyfnod i Lanofer - pobl megis Brinley Richards, Edith Wynne a Joseph Parry.

Yn yr Eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym 1834, enillodd yr Arglwddes, a oedd yn defnyddio'r ffugenw 'Gwenynen Gwent', wobr am ei thraethawd ’The Advantages Resulting from the Preservation of the Welsh language and National Costume of Wales'. Dechreuodd noddi eisteddfodau a hi, yn anad neb, oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i Eisteddfodau'r Fenni rhwng 1834 and 1853.

Gwnaeth yr eisteddfodau newydd hyn lawer i chwythu anadl einioes i gystadleuaethau barddol y cyfnod. Dyma baratoi'r ffordd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

I Fyny

 

Chwarel yn Troi’n Chwerw (1903)


Mae’r cau-allan yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda, drosodd.

Ar ôl saith mlynedd o frwydro rhwng Arglwydd Penrhyn a chrefftwyr yr ardal mae'r drysau ar agor ac mae'r dynion wedi mynd yn ôl i'w gwaith.

Ond mae'r cau-allan wedi cael effaith ofnadwy ar Ddyffryn Ogwen ac ar y bobl sydd yn byw yno.

Roedd tair mil yn gweithio yn y chwareli cyn i'r problemau ddechrau. Erbyn hyn, mae dros fil wedi symud i ardaloedd eraill, llawer ohonyn nhw i dde Cymru, ac mae ofnau na fyddan nhw byth yn dod yn ôl. Y cwestiwn mawr nawr yw a oes digon o grefftwyr ar ôl i gynnal diwydiant llwyddiannus.

Ac mae problemau eraill. Mae teuluoedd y chwarelwyr wedi bod yn gorfod byw ar roddion gan weithwyr mewn ardaloedd eraill ers blynyddoedd. Mae teimladau chwerw iawn, felly, at y rhai sydd wedi bod yn torri'r streic ac mae'r heddlu a milwyr wedi bod yn gwarchod y dynion hynny ar eu ffordd i'r gwaith. Mae'r slogan "Nid oes bradwr yn y ty hwn " i'w weld ar sawl cartref yn yr ardal ac mae ofnau na fydd pobl byth yn anghofio'r chwerwder.

Dechreuodd y cau-allan pan aeth Arglwydd Penrhyn, sydd yn Anglicanwr ac yn Geidwadwr yn groes i benderfyniad ei dad ym 1874 i adael i'r chwarelwyr fod yn aelodau o Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru.

I Fyny

 

100,000 yn Heidio i’r Capel (1905)


Dydy’r diwygiad crefyddol a ddechreuodd y llynedd ddim yn dangos unrhyw arwydd o ddiwryn i ben.

Mae capeli wedi bod dan eu sang er i Evan Roberts gael ei alw gan Dduw i ddechrau teithio o gwmpas Cymru gyda'r neges. Mae capeli wedi cynnal cyrddau gweddi sydd wedi parhau tan 3 o'r gloch y bore.

Mae'r diwygiad wedi cael effaith fawr ar werthiant beiblau. Mae archebion Cymdeithas y Beibl ar gyfer 'ysgrythurau i Gymru' yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 1904 wedi bod dair gwaith yn fwy na'r flwyddyn cyn honno.

Yn fwy pwysig, mae'r diwygiad wedi cael effaith fawr ar fywyd cymdeithasol Cymru - heb ddeddfwriaeth. Mae tyrfaoedd enfawr wedi bod yn mynychu cyrddau. Mae adnodau uwchben y drysau i lawr yn y pyllau glo. Mae pobl wedi dod â'u rhieni allan o'r gweithdai. Gohiriwyd cyfarfodydd gwleidyddol ac hyd yn oed gemau pêl-droed.

Mae llawer o'r ffraeo rhwng undebwyr ac eraill wedi dod i ben.

Mae'r diwygiad hefyd yn addo cael effaith ar gyfoeth Cymru fel cenedl. Mae cyflogwyr wedi sylwi ar wella yng ngwaith eu gweithwyr. Mae'r barnwr Syr Marchant Williams yn dweud nad oes cymaint o waith iddo fe yn enwedig o ran meddwi a throseddau sy'n ymwneud â meddwi.

Mae'r diwygiad yng Nghymru hefyd yn symud trwy Loegr a'r Alban. Roedd 2,000 wedi mynychu cwrdd gweddi yn ninas Bradford yr wythnos diwethaf.

I Fyny

 

Gwerthu’r Banc (1909)


Daeth y newyddion yr wythnos hon fod Banc Lloyds wedi prynu Banc yr Eidion Du yn Llanymddyfri.

Cafodd y banc, sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 110, ei ddechrau gan David Jones, Uchel Siryf Caerfyrddin. Roedd hwnnw’n dod o deulu pwysig o foneddigion ac wedi gwneud ffortiwn trwy fynd â gwartheg a defaid o Ddyfed i farchnadoedd a ffeiriau yn Lloegr.

Bydd llawer yn drist iawn i weld yr hen enw ar y banc yn dod i lawr.

Mae'r porthmyn wedi bod yn rhan bwysig o hanes Dyfed a hanes Cymru er y bymthegfed ganrif.

"Flynyddoedd yn ôl," meddai un o bobl Llanymddyfri, ''byddech chi'n eu clywed nhw'n gweiddi 'Haiptrw Ho! Haiptrw Ho!' yn aml o gwmpas y wlad. A byddai'r tafarnau yn llawn o gymeriadau byw a diddorol a fyddai'n cario storiau o le i le."

Ond doedd pawb ddim yn eu hoffi nhw. 'Dw i'n cofio Mam-gu yn dweud wrtho i am beidio â mynd yn agos atyn nhw am eu bod yn bobl gwrs," meddai un arall o'r bobl leol.

A dros y blynyddoedd maen nhw wedi cael eu beirniadu gan ysgrifenwyr fel Ellis Wynne am yfed gormod ac am dwyllo pobl.

Ond mae enw da gan Fanc yr Eidion Du a bydd llawer yn gweld ei eisiau. Mae Banc Lloyds hefyd yn dod o Gymru yn wreiddiol. Cafodd y busnes ei ddechrau yn Birmingham ym 1765 gan y Crynwr Charles Lloyd o Ddolobran, Powys. Erbyn hyn mae prif swyddfa'r banc yn Llundain.

I Fyny

 

Bardd yn Marw Cyn ei Gadeirio (1917)


Roedd pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Birkenhead yn ddistaw yr wythnos hon pan gyhoeddwyd bod Hedd Wyn, enillydd y gadair, wedi cael ei ladd chwech wythnos yn ôl ar Pilckem Ridge, Ypres. Roedd y gadair wedi cael ei gorchuddio â deunydd du yn y pafiliwn a oedd mor dawel â’r bedd wrth i'r beirdd dalu'u teyrngedau i fardd y gadair.

Enw iawn Hedd Wyn oedd Ellis Humphrey Evans ac roedd e'n fugail o Drawsfynydd oedd, er mai heddychwr oedd e, wedi cael ei annog i fynd i ryfel gan nad oedd yr awdurdodau yn derbyn bod eisiau mwy na dau fab i reoli fferm.

Roedd e'n fardd dawnus ac yn feistr ar y gynghanedd. Roedd wedi penderfynu anfon ei waith i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Birkenhead wedi ymuno â 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Amgylchiadau ofnadwy y ffosydd ydy testun ei gerdd Yr Arwr sy'n disgrifio bywyd erchyll y milwyr. Anfonwyd y gwaith i'r Eisteddfod dan y ffug enw Fleur-de-lis.

Mae trafod nawr am ddeiseb i Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad i newid ei garreg bedd i ddarllen 'Y Prifardd Hedd Wyn'.

I Fyny

 

Synnu Pob Cristion trwy Ewrop (1920)


Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi dewis ei Harchesgob cyntaf yr wythnos hon.

Ei enw yw A G Edwards ac mae'r Eglwys wedi cael miliwn o bunnau gan y Llywodraeth yn Llundain i'w helpu i ddechrau ar y gwaith mawr sydd o'i blaen. Mae hyn yn golygu bod yr Eglwys yng Nghymru, fel yr Eglwys yn Iwerddon, o'r diwedd yn gallu gofalu am ei materion ei hun.

Ac mae'n dilyn hanner canrif o ymgyrchu caled. Watkin Williams, Aelod Seneddol Dinbych, oedd y cyntaf i ofyn i Dy'r Cyffredin wahanu'r Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Loegr. Roedd hynny yn ôl ym 1870.

Ond roedd y Prif Weinidog, Gladstone, yn gryf yn erbyn y syniad er bod yr Eglwys yn Iwerddon newydd gael ei datgysylltu. "Mae Cymru," meddai, "mewn sefyllfa hollol wahanol i Iwerddon. "

Erbyn 1895 roedd llawer iawn mwy o gefnogaeth a llwyddodd y Radical, Lloyd George, ac eraill i gael y mesur trwy'r Ty.

Ond roedd rhai yn dal i fod yn gryf yn erbyn. Dywedodd un sylwebydd fod y penderfyniad wedi "synnu . . . pob Cristion trwy Ewrop'. A bu'n rhaid aros tan 1914 cyn i'r mesur ddod yn ddeddf gwlad.

Erbyn hynny roedd Comisiwn Brenhinol wedi dangos bod Anglicaniaeth yn amhoblogaidd iawn yng Nghymru a bod tri chwarter pobl y wlad eisiau gweld yr Eglwys yng Nghymru ar wahân.

Bu mwy o oedi wedyn cyn i'r ddeddf droi yn realiti oherwydd rhyfel 1914-18. Nawr bydd yr incwm sydd yn dod o eiddo seciwlar yr Eglwys yng Nghymru yn mynd i'r cynghorau sir.

I Fyny

 

Galw’r Fyddin i Mewn (1926)


Roedd sgarmes arall neithiwr rhwng yr heddlu a grwpiau o lowyr sydd yn streicio yn y Rhondda.

Ac mae rhai nawr yn ofni bod y sefyllfa yn mynd i droi’n gas iawn. Mae milwyr yno yn barod rhag ofn y bydd trwbl.

Dechreuodd y streic ddechrau Mai ac erbyn hyn mae prinder bwyd yn broblem fawr i'r dynion a'u teuluoedd.

'Roedden ni'n dlawd o'r blaen,' meddai un dyn, 'ond nawr does dim byd gennyn ni.'

Mae rhai ceginau cawl wedi cael eu hagor gan Ffederasiwn y Glowyr ac mae'r streicwyr yn benderfynol o beidio â mynd yn ôl i'r gwaith eto.

Ond mae Llywodraeth Stanley Baldwin yn gryf ac mae rhai yn amau a fydd y streic yn para'n hir iawn eto. Mae rhai dynion eisoes wedi mynd yn ôl i'r gwaith ac mae hyn wedi achosi drwgdeimlad mawr mewn rhai ardaloedd.

Er hynny, mae pobl cymoedd y de-ddwyrain wedi bod yn gwneud eu gorau glas i gadw ei gilydd rhag digalonni. Un datblygiad amlwg iawn yw'r bandiau jazz a'r bandiau Gazooka sydd wedi cael eu dechrau yn y Rhondda, Cwm Cynon a Chwm Taf. Erbyn hyn mae'r Gelli Toreadors, y Treharris Indians, a'r Cwmparc Gondoliers yn enwog trwy'r ardal.

I Fyny

 

Ethol Merch I’r Senedd (1929)


Cafodd Megan Lloyd George, merch y cyn Brif Weinidog, ei hethol i gynrychioli pobl Ynys Môn yn Llundain yr wythnos hon. Hi ydy’r ferch gyntaf i fod yn llwyddiannus. Mae hi'n aelod o'r Blaid Ryddfrydol.

Er ei bod wedi bod yn bosib i ferch sefyll mewn etholiad er 1918, nid oes llawer wedi ymateb i'r her. Millicent Mackenzie oedd y gyntaf. Ymgeisiodd am sedd Prifysgol Cymru ym 1918. Roedd tair merch yn ymgeisio yn Etholiad Cyffredinol 1922, ond dim ond un ym 1924.

Dechreuodd yr ymgyrch i sicrhau pleidlais i ferched yng Nghymru ym 1907 ac roedd David Lloyd George, pan oedd yn Ganghellor wedi wynebu protestiadau yn Llundain ym 1910, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon ym 1912 ac yn ei bentref yn Llanystumdwy ym 1912 pan ddaeth un ferch yn agos at gael ei boddi yn afon Dwyfor ar ôl seremoni i agor neuadd newydd yn y pentref.

Cafodd marched dros 30 oed y bleidlais ym 1918 ac erbyn y llynedd, 1928, roedd pob merch dros 21 oed hefyd yn cael pleidleisio. Mae Megan Lloyd George yn gyfarwydd â Llundain. Treuliodd ei phlentyndod - o 6 hyd 14 oed yn Downing Street - gan ddechrau yn rhif 11 - cartref y Canghellor - ac wedyn symud i rif 10 ym 1916 pan ddaeth ei thad yn Brif Weinidog.

I Fyny

 

Allforion Glo i Lawr (1929)


Yn ôl adroddiad diweddar, mae allforion glo wedi disgyn i 3% o allbwn y byd. Mae hyn wedi ychwanegu’n fawr at ddiweithdra a thlodi yng Nghymru.

Dim ond 16 mlynedd yn ôl ym 1913, tynnwyd 57 miliwn tunnell o lo o byllau Cymru a De Cymru oedd yn gyfrifol am draean o allforion glo y byd. Cyflogwyd dros chwarter miliwn o ddynion yn y diwydiant ac roedd 40,000 o'r rheini'n dod o'r Rhondda.

Mae pobl wedi cloddio am lo yn Ne Cymru er oes y Rhufeiniaid ond daeth y pyllau glo yn bwysig yn y 18fed ganrif oherwydd yr angen i fwyndoddi haearn. Newidiodd y farchnad tua diwedd y ddeunawfed ganrif ac ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd pobl yn defnyddio glo i yrru trenau, llongau ac a holl beiriannau'r chwyldro diwydiannol.

Roedd glowyr Cymru yn gwybod am rôl allweddol Cymru yn y chwyldro ac yn ymddiddori mewn materion cyfoes ac mewn mudiadau addysgiadol fel yr WEA a drefnodd gyrsiau i leddfu chwant y glowyr am ddysg. Roedd eu cyfarfod cyntaf yng Nghymru, yn y Barri, yn trafod economi Siapan.

Dioddefodd y diwydiant yn ddifrifol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wrth iddyn nhw golli marchnadoedd allweddol - yn enwedig g Ffrainc.

I Fyny

 

Sianel Deledu Gymraeg (1980)


Ddoe, 17 Medi, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref, William Whitelaw y byddai Cymru yn cael sianel deledu newydd - sianel Gymraeg. Mae hyn yn dilyn dros flwyddyn o brotestio ac ymgyrchu.

Ym mis Mai 1979, roedd pob un o’r pleidiau wedi addo, tasen nhw'n ennill yr etholiad, y byddai sianel arbennig ar gyfer rhaglenni Cymraeg. Ond erbyn Medi 1979 roedd y llywodraeth Geidwadol wedi newid ei meddwl. Barn William Whitelaw ac eraill oedd y byddai'n well rhoi rhaglenni Cymraeg ar bob sianel.

Erbyn mis Ionawr 1980 roedd dwy fil o bobl yn gwrthod talu am drwydded deledu ac ym mis Mai dywedodd Gwynfor Evans, Plaid Cymru, y byddai'n dechrau ymprydio os nad oedd addewid am sianel Gymraeg erbyn 6 Hydref. Gan fod Gwynfor Evans yn 68 oed, roedd pryderon mawr am ei iechyd.

Mae'n debyg bod Mr Whitelaw wedi newid ei feddwl ar ôl cyfarfod â'r Archesgob, Gwilym Owen Roberts, a'r cyn-Ysgrifennydd Gwladol, Cledwyn Hughes.

I Fyny

 

Marw Iorwerth Peate (1982)


Ar 19 Hydref, bu farw Iorwerth Cyfeiliog Peate - y dyn a sefydlodd Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ger Caerdydd ar batrwm sefydliad tebyg yn Sgandinafia.

Roedd Iorwerth Peate yn fardd ac yn heddychwr. Cafodd ei wahardd o’i swydd yn Sain Ffagan ym 1940 oherwydd hyn.

Roedd hefyd yn credu yn y gymdeithas uniaith Gymraeg ac yn gweld peryglon yn y syniad o ddywieithrwydd.

I Fyny

 

Cymry’n Marw yn y Malfinas (1982)


Lladdwyd 39 o filwyr o Gymru ac anafwyd 79 mewn ffrwydrad ger Ynysoedd y Malfinas ddoe. Roedd y milwyr ar long gludo’r Sir Galahad pan drawodd torpedo 2000 pwys y llong.

Cafodd y llong ei dinistrio

Gan nad oedd y milwyr wedi cael amser i wisgo siwtiau asbetos, cafodd llawer ohonyn nhw eu llosgi'n ddrwg yn y dŵr.

Roedd y Sir Galahad yn un o nifer o longau a oedd wedi cael eu hanfon i'r Malfinas. Y gobaith oedd glanio yn Bluff Cove a theithio i gyfeiriad Port Stanley. Ond ymosodd 17 o awyrennau llu awyr yr Ariannin arnyn nhw.

Gwnaed difrod sylweddol hefyd i'r Sir Tristam a'r Plymouth.

I Fyny

 

Pwll y Tŵr yn Newid Dwylo (1994)


Mae glowyr wedi prynu’r pwll glo olaf yng Nghymru a nhw bellach fydd yn ailagor ac yn rheoli'r pwll.

Caeodd Pwll y Tŵr wyth mis yn ôl pan benderfynodd y Bwrdd Glo nad oedd dyfodol iddo oherwydd rhesymau daearegol. Cynigiwyd pecyn diswyddo i'r gweithwyr ond roedden nhw'n ymwybodol iawn na fyddai'n hawdd iddyn nhw gael gwaith.

Lansiwyd cynllun i'r gweithwyr brynu'r pwll ac, o dan arweiniad Tyrone O'Sullivan, a oedd yn löwr ei hun, cytunodd 400 o'r cyn-löwyr i fuddsoddi £8,000 o'u pecyn diswyddo yn y pwll. Erbyn hydref eleni, roedd y glowyr wedi cael caniatâd i brynu'r pwll ac ar y 23ain o Ragfyr cafodd y Bwrdd Glo siec am £1,000,000.

Mae'r glöwyr yn gobeithio agor y pwll ar unwaith ac i gynhyrchu ddechrau erbyn mis Ionawr.

Mae glo wedi'i gynhyrchu ym Mhwll y Tŵr ers 130 o flynyddoedd. Cafodd ei enwi ar ôl 'Crawshay's Tower' a adeiladwyd ym 1848.

I Fyny