Gwefan S4C i Ddysgwyr y Gymraeg
Beth ydy'ch Lefel?
Beth ydy'ch Lefel?
Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau a'r adnoddau ym maes Cymraeg i oedolion nawr yn cael eu labelu fel Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch neu Hyfedredd. Mae felly yn help i wybod, yn fras, beth ydy'ch lefel!
Pwrpas y prawf hwn ydy asesu'ch lefel trwy gyfres o gwestiynau aml-ddewis. Dylech chi drin y canlyniad fel canllaw yn unig achos dyn ni ddim mewn sefyllfa i brofi'ch sgiliau llafar. Mae'r asesiad, fodd bynnag, yn un trylwyr a bydd yn cymryd o leiaf 15 - 20 munud.
Cliciwch yma i ddechrau'r asesiad. Does dim rhaid i chi logio i mewn. Dechreuwch yr asesiad pan fyddwch chi'n barod.