yr ystafell gefn
Newyddion Heddiw
Pwrpas y penawdau hyn ar gyfer dysgwyr canolradd ydy darparu ymarfer. Dyn nhw ddim yn benawdau 'go iawn'. Dros gyfnod bydd yr adnawdd hwn yn cyflwyno prif batrymau'r newyddion i gyd.
Y dyddiad heddiw ydy'r unfed ar ddeg ar hugain - the thirty first - yr unfed ar ddeg ar hugain a dyma'r newyddion
Bu farw'r Arglwydd Endaf neithiwr yn wyth deg naw oed. Roedd yr Arglwydd Endaf wedi cynrychioli etholaeth Blaenandros ers 1972. Roedd yn ffigwr poblogaidd yn Nhy'r Cyffredin ac yn Nhy'r Arglwyddi.
Agorwyd canolfan hamdden newydd yn Aberbigog ddoe gan y Prif Weinidog yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y canolfan hamdden newydd ar agor trwy'r dydd a thrwy'r nos a bydd yn cynnig rhai o'r adnoddau gorau yn Ewrop.
Bydd deg o blant Treangell yn mynd i Fae Caerdydd heddiw i dderbyn gwobr Mae'r deg wedi gwneud cerflun i fynd yn adeilad Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r deg yn gobeithio cyfarfod a'r Prif Weinidog a'r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol-oes.
A'r traffig i orffen. Mae tagfeydd traffig ofnadwy ar yr A560 heddiw ac mae'r traffig yn stond am bum milltir - the traffic is at a standstil for five miles - mae'r traffig yn stond am bum milltir. Dylech chi gadw'n glir o'r ardal - you should keep clear of the area - dylech chi gadw'n glir o'r ardal os yn bosib.
Dyna'r newyddion heddiw - yr unfed ar ddeg ar hugain o'r mis.
