Gwefan S4C i Ddysgwyr y Gymraeg
Pwrpas a Defnydd
Pwrpas y wefan hon ydy darparu adnoddau – yn y Gymraeg a’r Saesneg – a fydd yn galluogi gwylwyr i fwynhau mwy o raglenni Cymraeg ar S4C.
Os dych chi’n ddechreuwr – neu heb ddechrau dysgu’r Gymraeg o gwbl, bydd y pwyslais ar ddarparu cefndir.
Os dych chi wedi dechrau dysgu cewch wybodaeth a gweithgareddau ar bedair lefel a’r cyfle i weld clipiau byr o raglenni gyda sgriptiau neu gyfieithiadau. Os dych chi’n brofiadol cewch gyfle i fynegi barn am faterion sy’n codi yn sgîl y rhaglenni a thrafod eu cynnwys.
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, cysylltwch â ni, da chi, trwy post@acen.co.uk