Gwefan S4C i Ddysgwyr y Gymraeg
S4C a Dysgwyr
Mae cyfraniad S4C i faes Cymraeg i Oedolion wedi bod yn un enfawr.
Er 1989 mae'r Sianel, mewn cydweithrediad ag Acen a chwmnïau cynhyrchu trwy Gymru, wedi sicrhau 28 cyfres ar gyfer dysgwyr ar bob lefel, wedi creu 638 o raglenni dysgu, wedi ymateb i dros 75,000 o alwadau ffôn a negeseuon e-bost gan ddysgwyr sydd yn chwilio am gyngor ac arweiniad ac wedi dosbarthu 4.2 miliwn o becynnau gwybodaeth a phecynnau marchnata.
Mae fformat y rhaglenni i ddysgwyr wedi cael ei fabwysiadu trwy Ewrop yn fodel ar gyfer dysgu ieithoedd eraill ac mae rhai adnoddau wedi'u cyfieithu i naw iaith.
Mae dysgwyr, fodd bynnag, wedi elwa ar lawer mwy na'r rhaglenni dysgu eu hunain.
Mae S4C yn bodoli er mwyn sicrhau gwasanaeth teledu o ansawdd uchel trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pawb yng Nghymru - ac ers tair blynedd ar hugain, dyna mae'r Sianel wedi'i wneud. Er y darlledu cyntaf yn Nhachwedd 1982 mae S4C wedi darparu 53,000 awr o deledu trwy gyfrwng y Gymraeg. Er mwyn ymateb i'r her enfawr o ddarparu ar gyfer anghenion gwylio cenedl gyfan o fewn un gwasanaeth mae'r Sianel wedi datblygu ei brand unigryw ei hun o ddrama, newyddion, materion cyfoes, adloniant ysgafn, rhaglenni cerddoriaeth, chwaraeon a chrefydd a rhaglenni i bobl ifanc a phlant.
Mae ansawdd gwasanaeth S4C wedi'i gydnabod ar sawl llwyfan rhyngwladol ac mae rhaglenni'r Sianel wedi denu bron 600 o wobrau pwysig.
Mae'r gwasanaethau newydd ar y wefan hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr ar bob lefel wylio a mwynhau rhaglenni S4C mewn ffyrdd newydd.