S4C - Panel Pobl
Mae S4C yn gwahodd y cyhoedd i ymuno â phanel newydd er mwyn rhoi eu barn ar raglenni a gwasanaethau S4C - gyda'r bwriad o ddefnyddio'r adborth i helpu i gynllunio a datblygu ar gyfer y dyfodol.
Mae S4C yn awyddus i glywed gan bobl o bob rhan o Gymru ac o bob math o gefndir sydd â diddordeb mewn ymaelodi â'r panel. Bydd angen 100 o bobl i ymuno â'r panel am gyfnod cychwynnol o 12 mis. Bydd y panel yn cwrdd yn rheolaidd mewn gwahanol rannau o Gymru i drafod ystod eang o bynciau yn ymwneud â gwaith S4C.
Mae S4C am glywed barn dysgwyr yr iaith Gymraeg a Chymry di-Gymraeg yn ogystal â phobl sy'n rhugl yn y Gymraeg. Rydym am wybod barn gwylwyr cyson yn ogystal â rhai sy'n gwylio'n achlysurol neu sydd ddim yn gwylio S4C o gwbl.
Cyfrifoldeb cwmni ymchwil marchnad Beaufort fydd cyfansoddiad terfynol y panel a'r dull o wneud yr ymchwil.
I ymuno neu i gael mwy o wybodaeth am y panel, ewch i www.beaufortresearch.co.uk/s4c neu ffoniwch Beaufort ar eu rhif cost leol: 0330 123 9338.
