Lefelau Iaith
Beth ydy'ch Lefel Iaith?
Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau a'r adnoddau ym maes Cymraeg i oedolion nawr yn cael eu labelu fel Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch neu Hyfedredd. Mae felly yn help i wybod, yn fras, beth ydy'ch lefel!
Pwrpas y prawf hwn ydy asesu'ch lefel trwy gyfres o gwestiynau aml-ddewis. Dylech chi drin y canlyniad fel canllaw yn unig achos dyn ni ddim mewn sefyllfa i brofi'ch sgiliau llafar. Mae'r asesiad, fodd bynnag, yn un trylwyr a bydd yn cymryd o leiaf 15 - 20 munud.
Dechreuwch yr asesiad pan fyddwch chi'n barod. Does dim rhaid i chi logio i mewn.
Lefelau Iaith
- Just Starting
Dyma'r adnoddau ar gyfer dechreuwyr neu ddysgwyr sy ddim wedi cwblhau cwrs Mynediad mewn dosbarth Cymraeg i oedolion.
Mae’r adnoddau ar y sioe sleidiau a’r cyfweliad yn gyfieithiad Saesneg o’r hyn sy ar lefel Mynediad, felly, mae modd symud rhwng Just Starting a Mynediad a chael yr un wybodaeth yn union. Mae adnoddau clip a sgript ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg. Mae’r cyflwyniadau i’r gemau iaith yn Saesneg.
- Mynediad
Dyma’r adnoddau ar gyfer pobl sy wedi cwblhau cwrs Mynediad Cymraeg i Oedolion neu hanner cwrs Wlpan. Gall y lefel hon fod yn addas hefyd ar gyfer pobl sy wedi astudio'r Gymraeg yn y gorffennol ac yn awyddus i ail-afael yn y dysgu heb fynd yn ôl i'r dechrau. Maen nhw hefyd yn addas ar gyfer disgyblion ysgol sy ddim yn dilyn cyrsiau TGAU.
Deunyddiau Cymraeg sydd ar y lefel hon. Mae'r cynnwys a mynegiant y Sioe Slediau a’r Cyfweliad wedi eu symleiddio ac mae esboniadau i'w cael drwy lusgo'r cyrchwr (cursor) dros y geiriau sydd wedi eu tanlinellu. Mae cynnwys y Clip a Sgript hefyd wedi ei symleiddio a’i olygu ac mae cyfieithiad Saesneg ar gael. Mae’r cyflwyniadau i’r gemau iaith yn ddwyieithog ac mae cynnwys y gemau weithiau yn wahanol i gemau ar lefelau uwch.
- Sylfaen
Dyma’r adnoddau ar gyfer pobl sy wedi cwblhau cwrs Sylfaen Cymraeg i Oedolion neu gwrs Wlpan. Maen nhw’n addas hefyd ar gyfer pobl sy wedi cwblhau cwrs Cymraeg i Oedolion – Sylfaen neu sy’n fyfyrwyr mewn ysgol neu goleg ac yn paratoi ar gyfer TGAU Cymraeg Ail Iaith.
Deunyddiau Cymraeg sydd ar y lefel hon. Mae’r cynnwys yn fwy estynnol na Mynediad o ran geirfa a phatrymau iaith. Mae esboniadau i'w cael drwy glicio ar y geiriau sydd wedi'u tanlinellu neu drwy lusgo'r cyrchwr drostyn nhw. Mae Clip a Sgript yn cynnig fersiwn Gymraeg wedi’i golygu a chyfieithiad Saesneg ohoni.
- Canolradd
Dyma’r adnoddau ar gyfer pobl sy wedi cwblhau cwrs Canolradd Cymraeg i Oedolion. Maen nhw’n addas hefyd ar gyfer pobl sy wedi sefyll arholiad Cymraeg i Oedolion – Canolradd neu sy’n fyfyrwyr mewn ysgol neu goleg sy wedi sefyll TGAU Cymraeg Ail Iaith. Mae’r lefel hefyd yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n paratoi i sefyll arholiad Cymraeg i Oedolion – Uwch neu Lefel A.
Deunyddiau Cymraeg sy ar y lefel hon. Mae’r iaith yn fwy estynnol na Sylfaen o ran geirfa, cystrawennau a’r hyn sy’n cael ei esbonio. Bydd mwy o ffurfiau tafodieithol i’w gweld ar y lefel yma hefyd. Mae esboniadau i'w cael drwy glicio ar y geiriau sydd wedi'u tanlinellu neu drwy lusgo'r cyrchwr drostyn nhw. Mae Clip a Sgript yn cynnig fersiwn Gymraeg wedi’i golygu a chyfieithiad Saesneg ohoni ynghyd â sgript lawn sy’n cynnwys ffurfiau tafodieithol.
