Isdeitlau Saesneg
Mae S4C yn darparu isdeitlau Saesneg ar gyfer pobl sy ddim yn deall Cymraeg, cartrefi cymysg eu hiaith a’r trwm eu clyw a’r byddar.
Mae isdeitlau Saesneg ar gael ar tua 80% o raglenni S4C.
Mae S4C yn dangos rhai rhaglenni gydag isdeitlau sy’n ymddangos ar y sgrîn heb i chi eu dewis. Mae hyn yn digwydd pan fydd S4C yn ail ddangos rhaglenni megis dramâu poblogaidd a rhaglenni ffeithiol.
