Isdeitlau Cymraeg

Isdeitlau Cymraeg ar S4C

Mae’r gwasanaeth isdeitlau Cymraeg ar gyfer y trwm eu clyw a’r byddar, dysgwyr profiadol a phobl sy eisiau rhagor o help i ddilyn rhaglenni yn Gymraeg.

Mae’r gwasanaeth yma, sy’n cael ei ddarparu i S4C gan Gwmni Acen Cyf yn cynnwys capsiynau effeithiau sain ar gyfer gwylwyr trwm eu clyw a’r byddar.

Bob wythnos mae tua 10 awr o raglenni yn darparu isdeitlau Cymraeg – fel arfer rhwng 18:00 a 22:00.