S4C's Website for Welsh Learners
Today's News
These news items for Intermediate students have been designed to provide language practice and are not 'real'. Over a period the resource will introduce all the main news patterns and vocabulary.
Y dyddiad heddiw ydy'r deuddegfed - the twelfth - y deuddegfed a dyma'r newyddion
Cyhoeddwyd (It was announced) bod tri deg o bobl yn mynd i golli'u swyddi (lose their jobs) yn Abergarn ym mis Awst. Mae'r ffatri yn gobeithio arbed (save) hanner miliwn o bunnau y flwyddyn. Mae'r ffatri, sy'n cyflogi (employ) pedwar cant o bobl yn gobeithio y bydd y tri deg yn cymryd pecyn diswyddo gwirfoddol (a voluntary redundancy package) ond dydy'r undebau (unions) ddim yn hapus.
Ond newyddion da iawn i ardal (area) Bangor. Mae cwmni Homestore yn mynd i agor siop newydd yno. Bydd gwaith i wyth deg pump o bobl yn y siop.
Chwaraeon nesaf, ac mae tîm snwcer Caerelwyn ar y ffordd i Sheffield heddiw i chwarae yn erbyn tîm Sheffield Potters yn y Crucible. Bydd y gêm ar S4C digidol heno am ddeg o'r gloch
A'r traffig i orffen. Does dim problemau heddiw ar yr A456 ac mae'r traffig yn llifo'n esmwyth (flowing freely) dros y bont grog (suspension bridge). Ond mae goleuadau dros dro (temporary lights) ar yr A916 yn arafu'r traffig (slowing the traffic).
Dyna'r newyddion heddiw - y deuddegfed o'r mis.